Y PWYLLGOR IECHYD, GOFAL CYMDEITHASOL A CHWARAEON

CRYNODEB Y GWASANAETHAU CYFREITHIOL O DAIR SET O REOLIADAU GOFAL CYMDEITHASOL A OSODWYD GERBRON Y CYNULLIAD:

1.    Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

2.    Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

3.    Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019


Y cefndir

Gwneir y Rheoliadau hyn oll o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”). Cyflwynodd Rhan 1 o Ddeddf 2016 system newydd o reoleiddio gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru, gan ddisodli’r system a sefydlwyd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Gosodwyd y Rheoliadau hyn ar 10 ac 11 Ionawr 2019. Maent yn Rheoliadau penderfyniad cadarnhaol a threfnwyd y ddadl a’r bleidlais yn y Cyfarfod Llawn ar y tair set o Reoliadau ar gyfer 22 Ionawr 2019.


Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

Crynodeb

Mae Adran 2 o Ddeddf 2016 yn diffinio “gwasanaeth rheoleiddiedig” fel gwasanaeth sy’n cynnwys lleoli oedolion. Mae paragraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf 2016 yn diffinio “gwasanaeth lleoli oedolion” fel gwasanaeth a gynhelir (pa un ai er elw ai peidio) gan awdurdod lleol neu berson arall at ddibenion lleoli oedolion gydag unigolyn yng Nghymru o dan gytundeb gofalwr (ac mae’n cynnwys unrhyw drefniadau ar gyfer recriwtio, hyfforddi a goruchwylio unigolion o’r fath).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau mewn perthynas â gwasanaethau lleoli oedolion, gan gynnwys gofynion ynghylch safon y gofal a’r gefnogaeth sydd i’w darparu i unigolyn sy’n cael ei leoli o dan gytundeb gofalwr. Mae paragraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf 2016 yn diffinio “cytundeb gofalwr” fel cytundeb ar gyfer darparu gan unigolyn lety yng nghartref yr unigolyn ynghyd â gofal a chymorth ar gyfer hyd at dri oedolyn.

Pwyntiau i gyflwyno adroddiad yn eu cylch gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol:

Ni chynhwyswyd unrhyw bwyntiau adrodd yn adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y Rheoliadau hyn.


Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau Ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

Crynodeb

Mae ”gwasanaeth maethu” yn wasanaeth rheoleiddiedig, sydd wedi ei ddiffinio yn Neddf 2016 i olygu unrhyw wasanaeth a ddarperir yng Nghymru gan berson ac eithrio awdurdod lleol sy’n gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol neu sy’n cynnwys y naill neu’r llall o’r canlynol, sef lleoli plant gyda rhieni maeth neu arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â lleoliad o’r fath.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar ddarparwr gwasanaeth mewn perthynas â gwasanaethau maethu. Er enghraifft, o dan y Rheoliadau, rhaid i ddarparwyr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaethau maethu’n cael eu darparu â gofal, cymhwysedd a sgìl digonol, gan gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y gwasanaeth yn gynaliadwy yn ariannol.

Pwyntiau i gyflwyno adroddiad yn eu cylch gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol:

Mae’r tri phwynt canlynol wedi’u cynnwys yn adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y Rheoliadau hyn. Ar adeg ysgrifennu hyn, nid oedd Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn ffurfiol i’r pwyntiau adrodd.

1. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae’r Rheoliadau yn cyfeirio at “darpar rieni maeth” mewn chwe lle. Fodd bynnag, nid yw’n glir beth yw ystyr “darpar rieni maeth” na phwy sy’n cael ei gwmpasu gan y term.

Mae’r diffyg eglurder yn destun pryder penodol o gofio bod y term “darpar rieni” yn gymwys mewn perthynas â throseddau. Er enghraifft, mae’n drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â llunio canllaw ar y gwasanaeth ar gyfer darpar rieni maeth, ymysg eraill (gweler rheoliad 12(2)(c)(ii)).

Dyma godi drachefn bryder a godwyd gennym o’r blaen, sef bod angen eglurder llwyr wrth greu troseddau.

2. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

O dan y Rheoliadau, rhaid i ddarparwyr gwasanaethau wneud amrywiol hysbysiadau. Er enghraifft, rhaid i ddarparwyr gwasanaethau hysbysu’r heddlu am unrhyw “honiad bod plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth wedi cyflawni trosedd ddifrifol” (gweler rheoliad 40(5) a pharagraff 40 o Atodlen 3). Mae’n drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â gwneud hynny.

Fodd bynnag, nid yw’n glir beth yw “honiad” a beth yw “trosedd ddifrifol”.

Dyma godi drachefn ein pryder bod angen eglurder llwyr wrth ddiffinio troseddau newydd.

3. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn y diffiniad o “datganiad o ddiben” yn y testun Cymraeg, mae cyfeiriad at "Reoliadau Cofrestru 2018". Fodd bynnag, dylai’r cyfeiriad fod at "Reoliadau Cofrestru 2017".

Yn y cyd-destun, nodwn nad yw’r gwall hwn yn debygol o beri dryswch sylweddol yn ymarferol.


Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

Crynodeb

Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r gofynion rheoleiddiol a’r ddarpariaeth gysylltiedig ar gyfer darparwyr gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig a’r personau hynny sydd wedi eu dynodi’n unigolion cyfrifol ar gyfer gwasanaethau o’r fath.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau ac ar unigolion cyfrifol mewn perthynas â gwasanaethau eirioli. Er enghraifft, o dan y Rheoliadau, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd yr eiriolaeth a ddarperir, a rhaid iddynt sicrhau bod ganddynt bolisïau mewn perthynas â disgyblu staff a diogelu, er enghraifft.

Pwyntiau i gyflwyno adroddiad yn eu cylch gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol:

Mae’r tri phwynt canlynol wedi’u cynnwys yn adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y Rheoliadau hyn. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i bob pwynt wedi’i gynnwys.

 

1. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Os nad yw’r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau, o dan reoliad 6(4)(c), rhaid i ddarparwyr gwasanaethau sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion y Rheoliadau yn Rhannau 3 i 15.

Fodd bynnag, mae gofynion pwysig hefyd yn Rhan 2 o’r Rheoliadau. Nid yw’n glir pam nad yw rheoliad 6(4)(c) yn gwneud cydymffurfedd â Rhan 2 o’r Rheoliadau yn ofynnol.

Mae’r un mater yn codi mewn perthynas â rheoliad 7(3)(c).

Ymateb Llywodraeth Cymru i bwynt adrodd 1:

" Er bod llawer oʼr dyletswyddau yn Rhan 2 yn fwy cyffredinol eu natur, ac felly o gymhwysiad mwy cyfyngedig yng nghyd-destun trefniadau interim yn ystod absenoldeb dros dro unigolyn cyfrifol (neu ddarparwr unigol), cydnabyddir y gall fod adegau pan fydd y dyletswyddau o dan Ran 2 yn berthnasol ac y dylaiʼr cyfeiriadau yn rheoliadau 6(4)(c) a 7(3)(c) gyfeirio at Rannau 2 i 15 oʼr Rheoliadau.  Gwneir diwygiad ar y cyfle nesaf sydd ar gael."

2. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae rheoliad 10 yn gosod dyletswydd gonestrwydd ar ddarparwyr gwasanaethau - rhaid i ddarparwyr gwasanaethau weithredu mewn ffordd agored a thryloyw gydag:

-      unigolion (h.y. personau y mae’r darparwr gwasanaeth yn darparu neu wedi darparu eiriolaeth ar eu cyfer, neu bersonau y gallai’r darparwr gwasanaeth ddarparu eiriolaeth ar eu cyfer), ac

-      unrhyw gynrychiolwyr yr unigolion hynny.

Fodd bynnag, nid oes dyletswydd i weithredu mewn modd agored a thryloyw gyda chomisiynwyr gwasanaethau (h.y. awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am wneud trefniadau gyda darparwr gwasanaeth i ddarparu cymorth i blentyn neu berson o dan adran 178(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014).

Gofynnwn pam nad oes dyletswydd o’r fath?

Ymateb Llywodraeth Cymru i bwynt adrodd 2:

“Rhoddwyd ystyriaeth benodol iʼr mater hwn wrth ddrafftioʼr rheoliadau ac iʼr ffaith bod y ddyletswydd gonestrwydd yn gymwys i berthynas darparwr gwasanaeth â chomisiynwyr gwasanaethau ar gyfer mathau eraill o wasanaeth rheoleddiedig. Fodd bynnag, ar gyfer darparwr gwasanaeth eirioli, comisiynydd y gwasanaeth ywʼr corff y maeʼr plentyn neuʼr person ifanc yn dymuno cyflwyno sylwadau yn ei erbyn hefyd. Wrth ddarparu eiriolaeth i blentyn neu berson ifanc, maeʼn bwysig mai prif swyddogaeth darparwr y gwasanaeth eirioli yw cynrychioli safbwyntiauʼr person hwnnw iʼr awdurdod lleol sy’n comisiynu. Gallai dyletswydd i fod yn agored ac yn dryloyw gydaʼr awdurdod lleol sy’n comisiynu wrthdaro â chyfarwyddiadauʼr plentyn neuʼr person ifanc a gwrthdaro âʼr ddyletswydd hon. Am y rheswm hwn, eithriwyd comisiynwyr gwasanaethau yn benodol o gwmpas y ddyletswydd hon ar gyfer y math penodol hwn o wasanaeth.”

3. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae rheoliad 15 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau lunio canllaw ysgrifenedig ar y gwasanaeth eirioli. Rhaid i’r canllaw wedyn gael ei roi i “awdurdodau comisiynu” (gweler rheoliad 15(2)(d)).

Fodd bynnag, nid oes diffiniad o “awdurdodau comisiynu”.

Mae’r diffyg eglurder yn bryder penodol o gofio bod torri’r ddyletswydd yn rheoliad 15(2)(d) yn drosedd, ac mae angen eglurder llwyr wrth greu troseddau.

Ymateb Llywodraeth Cymru i bwynt adrodd 3:

“Er bod y term hwn yn debygol o gael ei ddeall yn y cyd-destun oherwydd bydd gwasanaethau, yn y mwyafrif helaeth o achosion, yn cael eu comisiynu gan awdurdodau lleol, ac er bod llys, yn ein barn ni, iʼr graddau y bo ansicrwydd, yn debygol ran amlaf o lawer o ddehongliʼr ymadrodd yn yr un ffordd, derbynnir y byddaiʼr ddarpariaeth yn gliriach pe baiʼr ymadrodd “comisiynwyr gwasanaethau” yn cael ei roi yn lleʼr ymadrodd “awdurdodau comisiynu”. Diffinnir yr ymadrodd “comisiynydd y gwasanaeth” yn rheoliad 2. Gwneir diwygiad ar y cyfle nesaf sydd ar gael.”


Gareth Howells

Gwasanaethau Cyfreithiol y Cynulliad

10 Ionawr 2019